Pwerdy-Powerhouse - Llogi'r Pwerdy

Pwerdy-Powerhouse LogoLlogi'r Pwerdy

Gellir llogi ystafelloedd fel y ganlyn.   Gofynnwch am gael gweld ein telerau ac amodau cyn archebu.

  • Ystafell Teifi   Eisteddfa ar  gyfer  40  ac yn addas ar gyfer cyfarfodydd.
  • Ystafell Tyweli  Eisteddfa ar gyfer 30 person i eistedd ac yn addas ar gyfer cyfarfodydd.
  • Cegin gyda dwr poeth ac oer, wrn te, cyllyll a ffyrc, llestri, troli  gweini gyda hobs, eisteddfa ar gyfer 10 person.
  • Neuadd allanol, ardal ar gyfer bwyta yn yur awyr agored yn yr Haf, eisteddfa ar gyfer 10 person.
  • 65" panel arddangos LED rhyngweithiol


floor plan of the Pwerdy building

  • Yn addas i’w logi ar gyfer partion plant ac oedolion. Cyfleusterau newid babanod ar gael . Dim trwydded ond dewch a’ch diodydd.
  • Mynediad a pharcio i’r anabl.
  • Signal ar gyfer ffon symudol a wi-fi ar gyfer gliniadur.
  • 65" panel arddangos LED rhyngweithiol - gweler mwy o fanylion yma.
  • Yswiriant atebolrwydd Cyhoeddus.
  • Tystysgrif Tan cyfredol.
  • Yn ychwanegol at y Pwerdy, mae gyda ni adeilad newydd, Y Gweithdy, sydd yn addas ar gyfer grwpiau bychain i gynnal gweithdai, yn cynnwys cegin. Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer gweithdai clai ac argraffu.​
  • Medr llogi pob ystafell ar gyfer arddangosfeydd, yn cynnwys reiliau crog haqwdd i’w crogi gyda gwiail a bachau’n gynwysiedig, os gwelwch yn dda cysylltwch a ni am brisiau, costau cystadleuol ac yn synhwyrol gogyfer a chomisiwn ar werthiant. Gweler y tudalen Llogi'r Oriel am wybodaeth am gynnal Arddangosfeydd yn y Pwerdy - Powerhouse
 

Cysylltwch ni:

Penelope Clark 01559 384 849
Ebost: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Cost llogi

Ystafell Teifi £8 yr awr
Ystafell Tyweli £7 yr awr
Cegin £5 / 6 y dydd, hanner diwrnod £4.
Canllaw yw'r costau hyn, mae croeso i chi drafod eich anghenion gyda ni.

Gweler y tudalen Llogi'r Oriel am wybodaeth am gynnal Arddangosfeydd yn y Pwerdy - Powerhouse

65inch panel arddangos LED rhyngweithiol
65inch panel arddangos LED rhyngweithiol

Pedwarawd Pete Stacey yn y Pwerdy-Powerhouse

Crefftau y Pasg yn y Pwerdy-Powerhouse

Gwybodaeth ar gyfer  cyhoeddusrwydd.

Pan fyddwch yn llogi’r Pwerdy –Powerhouse byddwch yn gyfrifol am hysbysebu eich digwyddiad/cwrs/gweithdy/arddangosfa.

Fodd bynnag os danfonwch eich hysbyseb atom medrwn eich cynorthwyo gyda’ch cyhoeddusrwydd trwy roi’r hysbyseb ar ein gwefan, ein cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein newyddlen. Os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen isod fel bod gennym y wybodaeth gywir.
 
Os gwelwch yn dda rhowch eich gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg. Os ydych angen cymorth gyda chyfieithu rhowch wybod inni a medrwn eich helpu.
 
  • Teitl: eich cwrs/gweithdy digwyddiad/arddangosfa ( yn Gymraeg a Saesneg) 
  • Dyddiad/au: 
  • Amser agor: 
  • Amser cau: 
  • Manylion cyswllt : ( ar gyfer archebu lle a rhagor o fanylion) 
  • Cost y digwyddiad: 
  • Disgrifiad  ( dyma  beth fydd yn mynd ar ein gwefan etc.) 
  • Delwedd:
    • Os gwelwch yn dda danfowch eich delwedd (jpg,pdf,png) rhywbeth fydd yn darlunio eich digwyddiad, mae poster yn dderbyniol.
    • Dylai’r darlun fod o leia 1920 pixel o led a 72dpi. Er, os yw’r eglurder a maint yn fwy medrwn ei ddefnyddio. (Medrir gwneud delwedd mawr yn llai ond ni fedrir gwneud delwedd bach yn fawr)
 
Os gwelwch yn dda e bostiwch i post@pwerdypowerhouse.co.uk  o leia bythefnos cyn i’ch digwyddiad gymryd lle.
 
Lawrlwythwch y ffurflen cyhoeddusrwydd yma.