Pwerdy-Powerhouse - News Story
 

25/04/2026

Noson gyda Julie Murphy

photo of the musician Julie MurphyBydd ein noson gerddorol nesaf gyda Julie Murphy

ar Nos Sadwrn 25 Ebrill 2026, am 7.30yh

Tocynnau ar werth yn Siop Ffab, Llandysul neu ar y drws (arian parod yn unig)

Perfformiad unigol, agos atoch gan y gantores Julie Murphy sy’n archwilio'r llais naturiol fel offeryn ynddoi hun trwy gân werin, cân gelf, barddoniaeth a chyfansoddiadau personol.

Wedi'i chanu'n bennaf yn ddigyfeiliant, gydag ambell cyffyrddiad o’r shruti a’r ffidil, ceir caneuon gwerin o Essex, Ceredigion, Kentucky, Galway, Sussex, Ramallah.

Dywed Julie, ”mae caneuon gwerin fel adar, yn hedfan lle fynent gan gollwng hadau wrth fynd.”

Caiff y caneuon eu phlethu gyda cerddi gan Thomas Hardy ac A.E Houseman, gosodiadau gan Britten a Vaughan Williams, a gosodiadau ei hun o gerddi Charles Causley.

Wedi'i geni yn Llundain, a’i magu yn Essex, mae Julie wedi teithio'n helaeth a’i cherddoriaeth, yn unigol a gyda fernhill, y grŵp arbrofol a ffurfiodd ym 1996. Mae wedi yngartrefu yn nyffryn Teifi a’i gwr, Ceri Rhys Matthews ers 1992. 

Dros y blynyddoedd mae hi wedi cydweithio a recordio gyda cherddorion o ystod eang gan gynnwys John Cale, Robert Plant, Danny Thompson, Ayub Ogada o Kenya a'r grŵp cerddoriaeth gynnar Sinfonye.

Nodwyd ei thaith artistig ddeugain mlynedd yn ddiweddar gan albwm finyl dwbl rhifyn cyfyngedig o'r enw Retrospective.

www.juliemurphymusic.com
 


"A towering talent both in traditional music and as a singer songwriter. She possesses a voice of stark, spectral beauty that recalls Shirley Collins and Sandy Denny."
Dafydd Goff, The Guardian