Pwerdy-Powerhouse - News Story
 

05/03/2025

Cynefin Taith Band yn Neuadd Tysul

CYNEFIN Taith Band 2025

Rydym ni yn Y Pwerdy yn profi menter newydd: cydweithrediad gyda lleoliad mwy, Neuadd Tysul, yn Llandysul; mae'n dal 200 o bobl, digon ar gyfer digwyddiad cerddoriaeth fyw, y credwn y bydd yn denu cynulleidfa fwy na'n huchafswm ni o 40 yn y Pwerdy.

Felly, rydym yn falch o hyrwyddo Owen Shiers a'i fand Cynefin, ar nos Fercher 5ed Mawrth, yn ystod eu taith o amgylch y DU i lansio eu halbwm newydd, Shimli.

Gobeithiwn y byddwch yn dod i weld drosoch eich hun!

CYNEFIN Taith Band 2025

Pryd: Nos Fercher, Mawrth 5ed,
Drysau'n agor am 7yh
Cerddoriaeth yn dechrau am 7.30yh.

Lleoliad: NeuaddTysul, Heol Newydd, Llandysul, SA44 4QL

Tocynnay: £10 / £8 consesiwn
Tocynnau ar gael o Siop Ffab, Llandysul neu wrth y drws neu ar-lein

'Shimli yw'r albwm newydd sbon gan y canwr gwerin, ymchwilydd, tyfwr grawn a hanesydd diwylliannol Owen Shiers, sef, Cynefin. Wrth barhau i wreiddio ei gerddoriaeth yn gadarn yn arferion a llen gwerin Ceredigion, mae’r albwm yn cymryd ei theitl o arferiad sydd bellach wedi darfod yng Ngorllewin Cymru o gynnal nosweithiau llawen mewn melinau a gweithdai. Gan dynnu ysbrydoliaeth o ganu gwerin, traddodiad y beirdd gwlad – yn ogystal â straeon a hanes cof byw, mae’r albwm yn archwilio’r groesffordd rhwng cerddoriaeth, barddoniaeth, bwyd a byd natur.

Mae’r gwaith yn fryslythyr personol o'r ymdrech i gynnal iaith, diwylliant a ffordd o fyw – deiseb gerddorol sydd yn mynegi llais yr amrywiol a'r diflanedig yn ein hoes o homogeneiddio ac lled-amnesia.

Ymunwch â Owen a'i bedwarawd yn Neuadd Tysul i glywed y caneuon newydd (hen!) a chael eich tywys ar daith cerddorol trwy Geredigion.