Pwerdy-Powerhouse - News Story
 

05/12/2025

Archifdy Ceredigion - Diwrnodau Darganfod

Ar gyfer Wythnos Archwilio Eich Archif 2025, bydd Archifdy Ceredigion yn mynd ar daith! Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes lleol? Eisiau dysgu am eich hynafiaid, neu hanes eich tŷ? Ydych chi'n mwynhau edrych ar hen ffotograffau neu fapiau? Dewch draw i ddweud helo!

Dewch o hyd i ni mewn lleoliadau o amgylch y sir yn ystod yr wythnos lle bydd arddangosfeydd, sgyrsiau, ‘freebies’, a'r cyfle i sgwrsio a gofyn am gyngor gan ein tîm cyfeillgar.

05/12/25 – 10am-4pm – Pwerdy, Llandysul
Ar ddydd Gwener 5ed Rhagfyr ymunwch â'r Uwch Archifydd Ania Skarzynska 11-11.45am yn y Powerhouse, Llandysul am sgwrs – ‘Hen Fapiau yn Archifdy Ceredigion’.

 

01/12/25 – 10am-4pm – Llyfrgell Aberaeron
02/12/25 – 10am-2pm – Canolfan Creuddyn, Llanbedr Pont Steffan
03/12/25- 10am-2pm – Guildhall, Aberteifi
04/12/25 – 10am-4pm – Canolfan Dreftadaeth, Tregaron 10am-4pm Bandstand, Aberystwyth