Llogi'r Pwerdy
Gellir llogi ystafelloedd fel y ganlyn
• Ystafell Teifi – gwagle ar gyfer 40 - am sgwrs neu ffilm, neu ar gyfer gweithdai i fyny at 10-15.
• Ystafell Cerdin - ardal y derbynfa yw hon sydd yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol bach, yn fan cyfarfod am baned a sgwrs lle gellir eistedd i fyny at 12. Mae gyda ni beiriant llungopio at ddefnydd y cyhoedd Copi du a gwyn am 10c neu copi lliw am 20c. Desg rhannu hefyd i'w llogi.
• Balconi - ardal agored sydd o dan do. Gwagle ar gyfer 20. Awyrgylch caffi yn edrych dros afon Teifi.
• Ystafell Tyweli - yn cynnwys cyfrifiaduron ar gyfer dosbarthiadau cyfrifiadurol neu fel ystafell ar gyfer cyfarfod neu ddarlith lle gellir eistedd 20. Gyda WiFi drwy'r adeilad gellir defnyddio cyfrifiadur personol yn yr ystafell yma hefyd.
Cyfleusterau cegin - Mae gan y Ganolfan gegin fach addas ar gyfer gwneud te/coffi sy'n cynnwys boiler, microdon ac oergell fechan. Mae'r gegin yn cynnwys cwpanau a soseri, gwydrau a chytleri
Mynediad WiFi trwy'r adeilad cyfan.
Hazel Thomas yw Swyddog Prosiect y Pwerdy, rhowch alwad ffôn am ragor o wybodaeth - 07973840285
| < Yn ôl | Nesaf > |
|---|







