Pwerdy ~ Powerhouse
  • CymraegCymraeg
  • EnglishEnglish

Pwerdy ~ Powerhouse on FacebookPwerdy ~ Powerhouse on FlickrPwerdy ~ Powerhouse on TwitterPwerdy ~ Powerhouse on Youtube

Newyddion

  • Approaches to Life Drawing
  • AFRICAN DRUMMING!
  • Pastel Drawing
  • Outdoor Digital Photography
  • Dewch i Ddarllen
  • Hafan /Home
  • Dyddiadur
  • Cyrsiau
  • Llogi'r Pwerdy
  • Grwpiau Ynni
  • Oriel
  • Artistiaid
  • Clwb Llyfrau
  • Amdano ni
  • Noddwyr a Grantiau
  • Dolenni
  • Siarad â Ni
  • Ymweld

Grwpiau Ynni

Roedd y Pwerdy yn Ganolfan cynhyrchu ynni yn wreiddiol yn 1929, ac am hynny o beth fe awgrymwyd byddai’n syniad i ffurfio grwpiau ynni er mwyn hwyluso’r daith o ddatblygu syniadau ar gyfer yr holl weithgareddau y mae pobl leol wedi dangos diddordeb ynddo.

Mae dau grwp ynni wedi cael eu sefydlu yn barod i ddarparu ar gyfer Celf a Cherddoriaeth. Rydym yn rhagweld y bydd mwy o grwpiau ynni yn cael eu sefydlu wrth i’r prosiect ddatblygu yn ystod y misoedd nesaf, a hynny er mwyn mynd i'r afael i ateb anghenion y nifer o ddiddordebau eraill yn y gymuned. Rydym yn croesawu unrhyw un a fyddai'n hoffi cael eu cynnwys.

Bydd y grwpiau ynni yn anffurfiol, yn fwy o grŵp trafod, lle bydd pobl yn datgan eu diddordebau ac yn rhannu syniadau, cyngor a gwybodaeth. Y gobaith yw y bydd y gwahanol grwpiau yn mynd ati i ddatblygu sesiynau ac o bosib yn dechrau dosbarthiadau o fewn eu diddordebau eu hyn.

Rydym yn gofyn am wirdoddolwyr ac mae angen eich syniadau arnom.  Dewch draw i ymuno â ni a chael hwyl. Mae gan bawb i sgiliau eu hun felly dewch i rannu eich gwybodaeth er lles eich Canolfan Cymunedol chi.    Mae pob cyfraniad yn werthfawr felly galwch draw i’r Pwerdy.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .

< Yn ôl   Nesaf >
  • Polisi Preifatrwydd
  • Hafan /Home
  • Siarad â Ni
  • Map o'r wefan
  • Aelodau
Pwerdy ~ Powerhouse, Chapel Street, Pont Tyweli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA44 4AH
Ffôn / Telephone: 01559 364820 | Ebost / Email: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Noddwyr a Grantiau / Sponsors and Grants