Pwerdy ~ Powerhouse
  • CymraegCymraeg
  • EnglishEnglish

Pwerdy ~ Powerhouse on FacebookPwerdy ~ Powerhouse on FlickrPwerdy ~ Powerhouse on TwitterPwerdy ~ Powerhouse on Youtube

Newyddion / News

  • Approaches to Life Drawing
  • AFRICAN DRUMMING!
  • Pastel Drawing
  • Gallery Photos: Living Willow
  • Outdoor Digital Photography
  • Dewch i Ddarllen
  • Computer Club
  • Yoga April-June 2012
  • Textile Techniques: Felting and Indigo Dying
  • Hafan /Home
  • Diary
  • Courses
  • Powerhouse for Hire
  • Energy Groups
  • Gallery
  • Artists
  • Book Club
  • About us
  • Sponsors and Grants
  • Links
  • Talk to Us
  • Visiting

Yr Un Hwyl a’r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones

Print
Friday, 25 November 2011 15:42

dic-jonesMae Yr Un Hwyl a’r Un Wylo yn gasgliad o gerddi na fu i Dic eu cynnwys yn un o’i saith cyfrol unigol o farddoniaeth.

Yn ogystal â bod yn dyst i’w ddawn dweud, mae’r gyfrol hon yn ein hatgoffa taw bardd ei bobl oedd Dic yr Hendre.  Cerddi cymdeithasol sydd yma: cerddi i gofio, cerddi i ddathlu, cerddi i gydymdeimlo – cerddi i bob un ohonom.

Yr oedd Dic Jones yn un o’n beirdd mwyaf cynhyrchiol a’i gyfrolau “yn dystiolaeth gofiadwy o’i ddawn i drin geiriau dros gyfnod o hanner canrif o farddoni. Ar ben hynny yr oedd yn llenor penigamp,” meddai Idris Reynolds.

“Mae’r bwlch ar ei ôl, yn lleol ac yn genedlaethol, yn anferth. Eto mae’r atgofion a’r cerddi yn aros. Yr oedd yn gymaint rhan o fywyd diwylliannol godre Ceredigion ac o Gymru gyfan. Byddai’n derbyn galwadau lu oddi wrth bobl o bell ac agos, nifer ohonynt yn ddieithriaid llwyr iddo, yn gofyn am gerddi,” yn ôl Idris Reynolds.

“Un o amcanion y gyfrol hon yw cadw ar glawr ryw gyfran fechan o’r holl benillion personol a weithiodd ar gais yr hwn a’r llall dros y blynyddoedd….  Cynnyrch pencerdd o fardd gwlad sydd yma yn canu i’w bobl ei hunan, ychwanega Idris.

Mae’r gyfrol Yr Un Hwyl a’r Un Wylo bellach ar werth yn eich siop lyfrau leol neu’n uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwr, Gwasg Gomer ar 01559 363090 www.gomer.co.uk

Manylion llyfryddol

Yr Un Hwyl a’r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones

Golygydd: Elsie Reynolds; gyda chyflwyniad gan Idris Reynolds

ISBN 9781848514508

Gwasg Gomer

£9.99

clawr meddal, 196 tudalen

< Prev   Next >
  • Privacy Policy
  • Hafan /Home
  • Talk to Us
  • Sitemap
  • Members
Pwerdy ~ Powerhouse, Chapel Street, Pont Tyweli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA44 4AH
Ffôn / Telephone: 01559 364820 | Ebost / Email: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Noddwyr a Grantiau / Sponsors and Grants