Pwerdy ~ Powerhouse
  • CymraegCymraeg
  • EnglishEnglish

Pwerdy ~ Powerhouse on FacebookPwerdy ~ Powerhouse on FlickrPwerdy ~ Powerhouse on TwitterPwerdy ~ Powerhouse on Youtube

Newyddion / News

  • Approaches to Life Drawing
  • AFRICAN DRUMMING!
  • Pastel Drawing
  • Gallery Photos: Living Willow
  • Outdoor Digital Photography
  • Dewch i Ddarllen
  • Computer Club
  • Yoga April-June 2012
  • Textile Techniques: Felting and Indigo Dying
  • Hafan /Home
  • Diary
  • Courses
  • Powerhouse for Hire
  • Energy Groups
  • Gallery
  • Artists
  • Book Club
  • About us
  • Sponsors and Grants
  • Links
  • Talk to Us
  • Visiting

Y Bygi Bach yn difyrru

Print
Wednesday, 20 July 2011 13:30

Mae’n dymor sioeau a gwyliau gyda theuluoedd wrth eu boddau yn mynd am dro gyda’i gilydd i fwynhau’r haf, gan obeithio am dywydd braf wrth gwrs! Bydd yna fabanod mewn coets a phlant bach mewn bygis yn rhyfeddu at y rhialtwch o’u cwmpas.  Rhieni’n oedi i sgwrsio gyda ffrindiau... aros wrth ambell i stondin... sefyll yn stond mewn ciw – gall bywyd fod yn eithaf diflas ar adegau i blentyn bach mewn bygi.  Dyna pam aeth Gwasg Gomer ati i greu Cyfres Bygi Bach, llyfrau bygi am Sali Mali a Jac y Jwc, dau o hoff gymeriadau’r plant. Mae’r ddau lyfr bach newydd Wyt ti’n barod Sali Mali? ac Wyt ti’n barod Jac y Jwc? yn siŵr o hwyluso sawl taith mewn bygi.

Ceir dolen hwylus ar stribed o ddefnydd i gysylltu’r llyfr â’r goets neu bygi a gall y bychan ddifyrru ei hun wrth edrych a throi’r tudalennau lliwgar.  Nid oes modd i’r llyfr gwympo ar lawr a mynd dan yr olwynion ac yn eiddo coll neu i’r bin sbwriel. O golli hoff lyfr neu degan ar lawr, gall strancio ambell i blentyn greu cryn embaras i’w rieni mewn lle cyhoeddus.  Felly, llyfr bygi amdani!

Mynd am dro a dewis dillad addas ar gyfer hynny wna’r cymeriadau yn y llyfrau hyn gyda Jac Do yn  rhoi ei farn ar bob gwisg.  Beth am Sali Mali mewn gwisg balerina, gwisg parti, Gwisg Gymreig neu wisg sgïo?  ‘O na, Sali Mali.’ meddai Jac Do tan iddo ei gweld yn ei ffrog sgleiniog.  Beth am Jac y Jwc mewn gwisg clown, gwisg ysbryd, gwisg arwr neu wisg nofio?  ‘O na, Jac y Jwc.’ meddai Jac Do tan iddo ei weld yn ei siwmper goch sgleiniog.  Bydd y gwisgoedd arbennig mewn deunydd ffoil ar dudalen olaf y llyfrau yn sicr o ddal llygad plentyn bach wrth sgleinio.

Os oes baban neu blentyn bach yn y teulu, bydd yna groeso mae’n siŵr i Gyfres Bygi Bach!

Manylion Cyhoeddi
Wyt ti’n barod Sali Mali?   9781848513747
Wyt ti’n barod Jac y Jwc? 9781848513754
Cyfres Bygi Bach
Sioned Lleinau Lluniau Simon Bradbury
Gwasg Gomer
£3.99 yr un

http://www.gomer.co.uk/

< Prev   Next >
  • Privacy Policy
  • Hafan /Home
  • Talk to Us
  • Sitemap
  • Members
Pwerdy ~ Powerhouse, Chapel Street, Pont Tyweli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA44 4AH
Ffôn / Telephone: 01559 364820 | Ebost / Email: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Noddwyr a Grantiau / Sponsors and Grants