Pwerdy ~ Powerhouse
  • CymraegCymraeg
  • EnglishEnglish

Pwerdy ~ Powerhouse on FacebookPwerdy ~ Powerhouse on FlickrPwerdy ~ Powerhouse on TwitterPwerdy ~ Powerhouse on Youtube

Newyddion / News

  • Approaches to Life Drawing
  • AFRICAN DRUMMING!
  • Pastel Drawing
  • Gallery Photos: Living Willow
  • Outdoor Digital Photography
  • Dewch i Ddarllen
  • Computer Club
  • Yoga April-June 2012
  • Textile Techniques: Felting and Indigo Dying
  • Hafan /Home
  • Diary
  • Courses
  • Powerhouse for Hire
  • Energy Groups
  • Gallery
  • Artists
  • Book Club
  • About us
  • Sponsors and Grants
  • Links
  • Talk to Us
  • Visiting

Tractor

Print
Thursday, 23 June 2011 10:17

Tractor - Stepping into a tractor cab. A book for children in the medium of Welsh, from Gwasg Gomer.

Camu mewn i gab y tractortractor Gwasg Gomer

Mae’n dymor y sioeau amaethyddol ac am dridiau ym mis Gorffennaf bydd miloedd o bobl y wlad a’r dref yn dod ynghyd i ddathlu gogoniannau cefn gwlad yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.  O gerdded o gwmpas fe welwch chi rai o’r peiriannau a thractorau mwyaf soffistigedig ar y farchnad ac ambell un yn wirioneddol anferth.  Ond un peth arall welwch chi hefyd yw cyffro a hoffter plant o eistedd yn sedd tractor a chydio’n dynn yn yr olwyn gan ddychmygu bod yn ffermwyr go iawn!  Dyna paham mae’r llyfr newydd Tractor, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yn siŵr o apelio. 

Tractorau coch, glas, gwyrdd ac oren – ceir ffotograffau o bob un ohonyn nhw wrth eu gwaith yn y llyfr bwrdd hwn sydd â thudalennau cadarn o wahanol faint a siâp i ddenu sylw a chwilfrydedd y plentyn ifanc.  Labelir y lluniau â geirfa perthnasol a brawddegau a chwestiynau addas.  Wrth roi peiriant wrth y tractor fe all wneud pob math o dasgau.  Dyna chi’r taenwr tail, torrwr porfa, rhaca wair ac aradr eira, maen nhw i gyd wrth eu gwaith yn y llyfr hwn. Gall y darllenydd ifanc eistedd yn ei sêt yn y cab a mynd at waith.  Fe’n hatgoffir bod y tractor yn gweithio ar y fferm drwy’r flwyddyn gan fod cymaint o waith i’w wneud – trin y tir, hau hadau, cynaeafu, byrnu gwellt  ac amrywiol dasgau eraill.

Camu i mewn i gab y tractor ac i fyd y ffermwr wnawn ni yn y llyfr Tractor a addaswyd i’r Gymraeg gan y ferch fferm Sioned Lleinau, sydd hefyd yn olygydd llyfrau plant yng Ngwasg Gomer. Yng Nghapel Iwan, yng nghysgod mynydd Moelfre, ger Castellnewydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin, y mae Sioned a’i gŵr Kevin a’r teulu yn byw ac yn ffermio ac fe sefydlon nhw Fuches Charolais Prydeinig Pedigri Moelfre yn 1989. 
Os ydych chi’n adnabod plentyn bach sy’n dwlu ar dractors – dyma’r llyfr i’w gael!

Manylion Cyhoeddi

Tractor
Addas Sioned Lleinau
Gwasg Gomer
9781848513761  
£4.99

www.gomer.co.uk

< Prev   Next >
  • Privacy Policy
  • Hafan /Home
  • Talk to Us
  • Sitemap
  • Members
Pwerdy ~ Powerhouse, Chapel Street, Pont Tyweli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA44 4AH
Ffôn / Telephone: 01559 364820 | Ebost / Email: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Noddwyr a Grantiau / Sponsors and Grants