Pwerdy ~ Powerhouse
  • CymraegCymraeg
  • EnglishEnglish

Pwerdy ~ Powerhouse on FacebookPwerdy ~ Powerhouse on FlickrPwerdy ~ Powerhouse on TwitterPwerdy ~ Powerhouse on Youtube

Newyddion / News

  • Approaches to Life Drawing
  • AFRICAN DRUMMING!
  • Pastel Drawing
  • Gallery Photos: Living Willow
  • Outdoor Digital Photography
  • Dewch i Ddarllen
  • Computer Club
  • Yoga April-June 2012
  • Textile Techniques: Felting and Indigo Dying
  • Hafan /Home
  • Diary
  • Courses
  • Powerhouse for Hire
  • Energy Groups
  • Gallery
  • Artists
  • Book Club
  • About us
  • Sponsors and Grants
  • Links
  • Talk to Us
  • Visiting

Thesawrws y Geiriadurwr Prysur

Print
Monday, 14 March 2011 12:39
mewn-geiriau-eraillGeiriadura yw un o ddiddordebau pennaf D. Geraint Lewis o Langwyryfon ger Aberystwyth.  Mewn geiriau eraill, mae’n byw a bod yng nghwmni geiriau a dyna deitl ei thesawrws newydd i blant a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Mae’r gyfrol Mewn Geiriau Eraill: Thesawrws i Blant yn ychwanegiad arbennig at y llu o lyfrau iaith defnyddiol o eiddo’r awdur toreithiog.
‘Beth am air arall yn lle neis?’ meddai’r athro wrth y disgybl. Wedi meddwl a phendroni am amser, mae’n cynnig gair.  Ond pe byddai copi o thesawrws wrth ei ochr, byddai modd iddo gynnig nifer o eiriau mewn byr amser!  Dyna rym thesawrws sy’n gyfrwng i gyfoethogi iaith.  Yn y gyfrol Mewn Geiriau Eraill cynhwysir y prif air mewn brawddeg esboniadol a nodir geiriau eraill y gellir rhoi yn ei le mewn blychau coch.  Nodir geiriau croes eu hystyr gyda chroes werdd a cheir llun chwyddwydr yn nodi ‘Edrychwch hefyd dan..’.   Os oes yna ddywediadau neu ymadroddion perthnasol i’r gair dan sylw, rhestrir rheiny hefyd.  Mae yna gyfoeth rhwng cloriau’r llyfr hwn a ddyluniwyd yn glir a hwylus.
Mae’r gyfrol Mewn Geiriau Eraill ar gyfer plant oed cynradd yn bennaf ac yn gymar perffaith i Geiriadur Cynradd Gomer. Ond gall plant o bob oed, dysgwyr ac oedolion ddysgu llawer am yr iaith Gymraeg drwy fodio tudalennau’r llyfr cynhwysfawr hwn.
Mae ein diolch yn fawr i D. Geraint Lewis,  brodor o Ynys-y-bŵl, Morgannwg, am fynd ati i ddysgu Cymraeg ei hun yn y lle cyntaf ac yna rhoi cymaint o’i amser yn ymwneud â nodweddion arbennig yr iaith.
www.gomer.co.uk

 

Manylion Cyhoeddi

Mewn Geiriau Eraill

D. Geraint Lewis

9781843238614

£8.99

Gwasg Gomer

< Prev   Next >
  • Privacy Policy
  • Hafan /Home
  • Talk to Us
  • Sitemap
  • Members
Pwerdy ~ Powerhouse, Chapel Street, Pont Tyweli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA44 4AH
Ffôn / Telephone: 01559 364820 | Ebost / Email: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Noddwyr a Grantiau / Sponsors and Grants