Pwerdy ~ Powerhouse
  • CymraegCymraeg
  • EnglishEnglish

Pwerdy ~ Powerhouse on FacebookPwerdy ~ Powerhouse on FlickrPwerdy ~ Powerhouse on TwitterPwerdy ~ Powerhouse on Youtube

Newyddion / News

  • Approaches to Life Drawing
  • AFRICAN DRUMMING!
  • Pastel Drawing
  • Gallery Photos: Living Willow
  • Outdoor Digital Photography
  • Dewch i Ddarllen
  • Computer Club
  • Yoga April-June 2012
  • Textile Techniques: Felting and Indigo Dying
  • Hafan /Home
  • Diary
  • Courses
  • Powerhouse for Hire
  • Energy Groups
  • Gallery
  • Artists
  • Book Club
  • About us
  • Sponsors and Grants
  • Links
  • Talk to Us
  • Visiting

Jyrms! Smwt! a Tŷ Bach!

Print
Monday, 14 March 2011 12:43

tudur-budrMae yna ambell i enw sy’n gweddu i’r dim i gymeriad ac mae Tudur Budr yn un ohonyn nhw.  Dyma i chi fachgen bach mochaidd sy’n gadael ei farc ar y byd llyfrau, yn enwedig gyda bechgyn o ddarllenwyr tua saith oed i fyny.  Gyda magned trwbwl mwyaf budr y byd yn hawlio’i le, nid yw’n syndod gweld Jyrms! Smwt! a Tŷ bach! fel teitlau newydd i’r gyfres boblogaidd a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Straeon hwyliog ar gyfer plant sy’n cael blas ar ddarllen yn annibynnol yw llyfrau Tudur Budr a cheir tair stori wahanol ymhob llyfr. Mae’r testun bachog gan Gwenno Mair Davies o Lansannnan, Dyffryn Conwy yn siwr o roi gwên ar wyneb ein darllenwyr ifanc gyda’r lluniau du a gwyn yn ychwanegu at y difyrrwch.  Yn y stori Jyrms!, mae brech yr ieir ar chwaer Tudur ac mae e’n ysu am gael diwrnodau i ffwrdd o’r ysgol yn debyg iddi hi.  Gwna ei orau glas i berswadio’i fam ei fod yn sal gyda’i gynllwyn cyfrwys yn llwyddo.  Ond dyw pethau ddim yn fêl i gyd chwaith!  Teithio ar y draffodd mewn bws ar drip ysgol yw cefndir un o straeon Tŷ Bach!  Nid bws moethus gyda thŷ bach ar ei fwrdd yw hwn a dyna hanner y broblem.  Os ydy plentyn eisiau mynd i’r tŷ bach, mae e eisiau mynd ar frys ran amlaf.  Wrth i Tudur druan geisio anghofio ei bryder, fe ddaw achubiaeth iddo wedi darganfod potel lemonêd wag.  Ond a fydd gwên ar wyneb Dyfan-Gwybod-y-Cyfan ar ddiwedd y dydd?

Drwy grynhoi pob math o arferion afiach bachgen direidus i gymeriad Tudur Budr a phlethu digwyddiadau cyffredin bywyd teuluol ac ysgol yn gefndir i’r anturiaethau, mae’r awdur wedi creu fformiwla sy’n apelio.  Does ryfedd bod un ar ddeg teitl yng nghyfres Tudur Budr erbyn hyn!

www.gomer.co.uk

Manylion Cyhoeddi

Tudur Budr: Jyrms! 9781848512504

Tudur Budr: Smwt! 9781848512498

Tudur Budr: Tŷ Bach 9781848512481

David Roberts addasiad Gwenno Mair Davies

£4.99 Gwasg Gomer

 

< Prev   Next >
  • Privacy Policy
  • Hafan /Home
  • Talk to Us
  • Sitemap
  • Members
Pwerdy ~ Powerhouse, Chapel Street, Pont Tyweli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA44 4AH
Ffôn / Telephone: 01559 364820 | Ebost / Email: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Noddwyr a Grantiau / Sponsors and Grants