Pwerdy ~ Powerhouse
  • CymraegCymraeg
  • EnglishEnglish

Pwerdy ~ Powerhouse on FacebookPwerdy ~ Powerhouse on FlickrPwerdy ~ Powerhouse on TwitterPwerdy ~ Powerhouse on Youtube

Newyddion / News

  • Approaches to Life Drawing
  • AFRICAN DRUMMING!
  • Pastel Drawing
  • Gallery Photos: Living Willow
  • Outdoor Digital Photography
  • Dewch i Ddarllen
  • Computer Club
  • Yoga April-June 2012
  • Textile Techniques: Felting and Indigo Dying
  • Hafan /Home
  • Diary
  • Courses
  • Powerhouse for Hire
  • Energy Groups
  • Gallery
  • Artists
  • Book Club
  • About us
  • Sponsors and Grants
  • Links
  • Talk to Us
  • Visiting

Gwella iaith gyda Dwli!

Print
Monday, 14 March 2011 12:26

gwella-dwli‘Dwedais i wrth ti,’ ‘Mae ci gan hi’, ‘Rhedodd Huw at fe,’ – beth sy’n gyffredin yn y rhain?  Arddodiaid neu’r ffurfiau anghywir ohonyn nhw !  Gyda safon iaith plant yn fynych o dan y lach, fe fydd yna groeso mawr i lyfr gweithgareddau newydd sy’n trin a thrafod arddodiaid mewn ffordd hwyliog dros ben. Wythfed teitl y gyfres boblogaidd Helpwch eich Plentyn yw Arddodiaid a luniwyd gan Elin Meek o Abertawe. Yn fam ei hun, mae’n ymwybodol iawn o’r iaith Gymraeg a siaredir gan blant heddiw ac mae’r posau amrywiol yn ei llyfr yn fodd i dynnu sylw at y defnydd cywir o arddodiaid a sut i gyfoethogi iaith gydag idiomau cynhennid Gymraeg.


Yn tywys plant drwy’r llyfr mae draig o’r enw Dwli, creadigaeth yr arlunydd Graham Howells o Lanelli. Mewn swigen fawr o enau Dwli y daw ambell i reol iaith e.e ‘ Mae angen defnyddio ffurf wahanol ar yr arddodiad yn gyda phob rhagenw.’  Nodir esiamplau o frawddegau cywir ac anghywir fel sail i’r plentyn fwrw ymlaen gyda’r gweithgareddau sy’n dilyn.  Croesair, chwilair, datrys cliwiau, ail-drefnu geiriau, llenwi bylchau – mae yna amrywiaeth o dasgau yn y llyfr hwn a bydd llawer wedi ei ddysgu mewn dim o dro! 


Idiomau sy’n rhoi’r lliw ar unrhyw iaith ac mae llawer ohonyn nhw’n gysylltiedig ag arddodiaid.   Ceir adrannau a gweithgareddau i gynorthwyo plant i ddefnyddio idiomau i wella eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.  Dyna chi  ‘ar bigau’r drain’, ‘cyn pen dim’, ‘dan ei sang’, ‘heb os nac oni bai’, ‘i’r byw,’ ‘ mewn dim o dro,’ ‘o bwys’, ‘dros ben llestri’, ‘drwy’r trwch’.


Fel teitlau eraill y gyfres, mae yna gyfieithiadau cryno o’r cynnwys i roi esboniad pellach i’r plant neu gymorth i rieni di-Gymraeg sy’n awyddus i gefnogi addysg Gymraeg eu plant.  Gyda thoreth o lyfrau gweithgareddau i blant ar y farchnad ar wahanol bwyntiau’n ymwneud â’r iaith Saesneg, mae cyfres Helpwch eich Plentyn, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yn cynnig arlwy hwyliog i blant ar agweddau penodol o ramadeg yr iaith Gymraeg.Mae Helpwch eich Plentyn/Help your Child: Arddodiaid/Prepositions wedi ei anelu at blant deg oed ac yn hŷn. Dyma ychwanegiad gwreiddiol a defnyddiol iawn i’r gyfres.

www.gomer.co.uk

< Prev   Next >
  • Privacy Policy
  • Hafan /Home
  • Talk to Us
  • Sitemap
  • Members
Pwerdy ~ Powerhouse, Chapel Street, Pont Tyweli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA44 4AH
Ffôn / Telephone: 01559 364820 | Ebost / Email: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Noddwyr a Grantiau / Sponsors and Grants