Esgidiau a’r Eisteddfod
Sandalau, sodlau uchel, esgidiau gwaith, clocsiau a wellingtons – fe welwch chi esgidiau o bob lliw, llun a maint ar faes eisteddfod. Ond eleni yn Wrecsam fe welwch chi fwy o esgidiau nag arfer wrth i ymgyrch Sodlau’n Siarad, a drefnir gan Ferched y Wawr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Achub y Plant, ein denu i sylwi ar esgidiau rhai o ferched amlycaf Cymru. Gofynnwyd i gant a hanner o ferched i dyrchu’n eu cwpwrdd dillad am bâr o esgidiau i’w rhoi i achos da ac fe gynhelir arwerthiant yn y Babell Lên brynhawn dydd Iau 4 Awst.
Esgidiau yw testun stori ddiweddaraf Cyfres Pentre Bach, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, a chawn ddarganfod pam fod Bili Bom Bom yn gwisgo un esgid ac un weli o hyd. Beth sydd tu ôl ffasiwn rhyfedda un o gymeriadau hoffus Pentre Bach? Mae creadigaeth yr awdures Ifana Savill a’r dylunydd Gary Evans o Giliau Aeron, yn dipyn o ffefryn gyda’r plant. Dyw hyn fawr o syndod gan fod Bili Bom Bom yn gwisgo het â fflapiau hir, gogls hedfan a stethosgop o gwmpas ei wddf a’i gar arbennig, Sabrina, hyd yn oed yn gallu hedfan. Cynllunio a dyfeisio sy’n mynd â’i fryd ac un diwrnod wrth ddyfeisio roced newydd yn ei weithdy y dechreuodd yr holl helynt. Yn lle saethu fry i’r awyr, fe saethodd roced Bili Bom Bom i mewn i’r ddaear gan greu anferth o dwll mawr.
‘Rhaid i ti lenwi’r twll yna’n syth,’ meddai Sali Mali.‘Bom boms bach a mawr!’ meddai Bili.
‘Ble mae fy mheiriant cymysgu sment rhyfeddol i?’
I mewn â’r tywod, sment a dŵr i’r peiriant a chymysgu a chymysgu. Pryd mae’r concrid yn iawn i sefyll arno? Dyna ddechrau’r esboniad pam fod Bili Bom Bom yn gwisgo un esgid ac un weli.
Esgidiau Bili Bom Bom yw’r pedwerydd teitl yng nghyfres Pobl Pentre Bach, cyhoeddwyd Dacw’r Gwcw, Mae Popi Yma a Coblyn o Broblem eisoes. Mae athroniaeth y Cyfnod Sylfaen yn gefnlen i’r straeon hyn hefyd gan gynnig profiadau amrywiol i blant i brofi, chwarae, efelychu, ac ymchwilio, yn y cartref, y dosbarth a thu allan.
Wrth i ffrindiau yr enwog Sali Mali ymuno â hi ym Mhentre Bach, gall plant Cymru gyfan ymuno â’r criw difyr wrth droi tudalennau Coblyn o Broblem!
Manylion Cyhoeddi
Esgidiau Bili Bom Bom
Cyfres Pobl Pentre Bach
Ifana Savill a Gary Evans
Gwasg Gomer
9781848513945 £5.99
| < Prev | Next > |
|---|








