Dechrau Da - i’r bechgyn yn arbennig!
Beth sy’n diddori bechgyn? Pêl-droed, rygbi, gêmau cyfrifiadur – ond nid darllen, yn ôl adroddiad barn diweddar. Holwyd dros ddwy fil ar bymtheg o blant a phobl ifanc mewn arolwg barn cynhwysfawr yn ddiweddar ar ran yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol, ac roedd yr ystadegau’n dangos yn glir fod bwlch enfawr rhwng ymateb merched a bechgyn i ddarllen ac ymwneud â llyfrau yn gyffredinol. Prin 40% o fechgyn ddywedodd eu bod nhw’n mwynhau darllen o’i gymharu â bron i 60% o ferched, gyda bron i chwarter y bechgyn a holwyd yn datgan fod darllen yn ‘boring’.
Mewn ymateb i ystadegau fel hyn, ac i’r gofid cynyddol fod y diffyg diddordeb mewn darllen ymhlith bechgyn yn arwain at dangyflawni a diffygion eraill yng nghyrhaeddiad bechgyn, dyma oedd gan Jonathan Douglas, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Gyffredinol i’w ddweud: ‘Mae ein diwylliant wedi dechrau clustnodi darllen ac ysgrifennu yn weithgareddau benywaidd ac mae’n rhaid newid agweddau a stereodeipio fel hyn os ydym yn dymuno i’n bechgyn gyflawni’r un llwyddiant academaidd â merched.’
‘Mae hwn yn grêt,’ meddai bachgen am y gyfrol O Dan y Môr, ‘mae digon o luniau a lot o wybodaeth.’ A heb dynnu anadl, ychwanegodd ‘Dwyt ti ddim yn gorfod darllen drwy lot fawr o stwff i ddysgu rhywbeth. Cŵl!’ Gyda chyfuniad o arlunwaith a ffotograffiaeth, a’r testun yn hawdd i’w ddarllen ac wedi’i rannu’n baragraffau a brawddegau byrion ar hyd y dudalen, mae’r llyfrau yn siwr o apelio at ddarllenwyr o saith oed i fyny. Mae pob un o’r llyfrau’n dilyn yr un fformiwla gan gynnwys rhestr gynnwys, mynegai a thudalen sy’n cyfeirio plant at dudalennau gwe lle gellir cael rhagor o wybodaeth am bwnc y gyfrol unigol.
Does neb yn gwadu nad yw cael bechgyn i ymddiddori mewn darllen a llyfrau yn her, ond diolch i Dechrau Da, o leia mae yna gyfres a chanddi’r gallu i danio diddordeb!
Am fanylion pellach cysylltwch â :
Manylion Cyhoeddi
Cyfres Dechrau Da
20 teitl yn y gyfres
Elin Meek
£4.99 yr un neu becyn o 20 am £80
Gwasg Gomer
| < Prev | Next > |
|---|








