Crwydro milltir sgwâr T. Llew...
Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan?Groesoch chi Draeth y Pigyn erioed?
Yn y llyfr newydd Ôl Troed T. Llew gan Jon Meirion Jones mae deg taith lenyddol yn dilyn ôl troed un o’n hawduron enwocaf ac anwylaf ni.
Cyhoeddir y gyfrol fechan newydd gan wasg Gomer, Llandysul.
“Trwy ei farddoniaeth, ei storïau a’i nofelau i blant, ieuenctid ac oedolion Cymru, a’i ddawn fel diddanwr, darlledwr a beirniad, mae olion cyfraniad T. Llew yn ddwfn ar briddoedd diwylliant ein cenedl... Mae’r diddordeb yn ei lyfrau a’i farddoniaeth i blant yn parhau, ond wedi ei farwolaeth, mae awydd hefyd ymhlith rhieni, plant a phobl yn gyffredinol i wybod am ei gefndir,” meddai’r awdur Jon Meirion Jones.
Mae’r gyfrol newydd Ôl Troed T. Llew yn cwmpasu ardal ei febyd, ardaloedd yr ysgolion lle bu’n athro ac yn brifathro, ei gartrefi a mannau a ddaeth i amlygrwydd ac enwogrwydd trwy ei farddoniaeth, ei storïau a’i nofelau arbennig.
“Gobeithio bydd y gyfrol yn gymorth i deithwyr, twristiaid, disgyblion o bob oed, cymdeithasau a theuluoedd sydd â diddordeb ym mywyd a gwaith T. Llew Jones, ac sydd am ddysgu mwy amdano wrth iddynt grwydro ar droed, ar gefn beic neu mewn modur,” ychwanega Jon Meirion.
Gadawodd T. Llew Jones waddol cyfoethog sydd yn drysor amhrisiadwy er parhad y Gymraeg, ein diwylliant a’n cenedl. Mwynhewch eich crwydro...
Cyhoeddir Ôl Troed T. Llew gan wasg Gomer ac mae’r gyfrol bellach ar werth yn eich siop lyfrau leol am £6.99.
MANYLION LLYFRYDDOL
Ôl Troed T. Llew
Jon Meirion Jones
ISBN 9781848512443
£6.99
clawr meddal, 112 tt.
• Mae Jon Meirion Jones yn gyn brifathro, yn fardd, yn olygydd ac yn dywysydd cymdeithasau o amgylch y fro.
• Brodor o Langrannog ydyw sy’n adnabod y cilcyn hwn o’n gwlad fel cefn ei law ac mae ganddo stôr o straeon am feirdd a llenorion lleol.
• Ef oedd yn gyfrifol am olygu’r gyfrol Bro a Bywyd T.Llew Jones (Barddas, 2010) ac ef yw awdur Morwyr y Cilie (Barddas, 2002) a Teulu’r Cilie (Barddas, 1999).
This book gives you the opportunity to walk along ten literary walks following T. Llew Jones, one of our most famous and beloved authors us.
| < Prev | Next > |
|---|








