Coblyn o Stori!
Dyw llwyfan eisteddfod ddim yn ddieithr i Dafydd Jones, Ystrad Meurig – cerdd dant, alaw werin a mwy! Ond i gynulleidfa ifanc, mae ei wyneb yn fwy adnabyddus fel y cymeriad Coblyn yn y gyfres deledu ‘Pentre Bach’ am Sali Mali a’i ffrindiau. Ond Coblyn ei hun sy’n serennu yn y llyfr stori-a-llun Coblyn o Broblem!, a gyhoeddir gan Wag Gomer.
Ifana Savill, yr un gafodd y syniad cyffrous i greu Canolfan Pentre Bach ym Mlaenpennal, Ceredigion, yw awdures y stori a’r dylunydd, Gary Evans, o Giliau Aeron, fu’n creu arlunwaith y llyfr stori-a-llun lliwgar a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Seiliodd Gary ei ddarluniau ar y ffotograffau o’r actorion fu’n cymryd rhan yn y gyfres deledu ac nid yw’n syndod gweld gwên ddireidus ar wyneb hoffus Coblyn yn y stori.
Mae'n amser brecwast a wy wedi'i ferwi yw dewis Coblyn bob bore ers iddo fod yn goblyn bach. Ond heddiw mae yna broblem, coblyn o broblem, does dim wy ar ôl. Yna mae’n mynd o gwmpas y pentre i holi am fenthyg wy gan alw gyda Mrs Migl Magl, Jac y Jwc, Bili Bom Bom a Shoni Bric-a-moni, ond heb fawr o lwc. Newydd ddefnyddio ei wy olaf i wneud cacen mae Sali Mali ond allan â hi i’r ardd gefn i gyflwyno un o drigolion newydd Pentre Bach i Coblyn sef Begw’r iâr. Yn gorwedd yn y gwellt mae’r wy mawr, brown perta erioed ac mae Coblyn wrth ei fodd.
Dyma’r trydydd teitl yng nghyfres Pobl Pentre Bach, cyhoeddwyd Dacw’r Gwcw a Mae Popi Yma y llynedd. Mae athroniaeth y Cyfnod Sylfaen yn gefnlen i’r straeon hyn hefyd gan gynnig profiadau amrywiol i blant i brofi, chwarae, efelychu, ac ymchwilio, yn y cartref, y dosbarth a thu allan.
Wrth i ffrindiau yr enwog Sali Mali ymuno â hi ym Mhentre Bach, gall plant Cymru gyfan ymuno â’r criw difyr wrth droi tudalennau Coblyn o Broblem!
Manylion Cyhoeddi
Coblyn o Broblem!
Cyfres Pobl Pentre Bach
Ifana Savill a Gary Evans
Gwasg Gomer 9781848513938
£5.99
| < Prev | Next > |
|---|








