Pwerdy ~ Powerhouse
  • CymraegCymraeg
  • EnglishEnglish

Pwerdy ~ Powerhouse on FacebookPwerdy ~ Powerhouse on FlickrPwerdy ~ Powerhouse on TwitterPwerdy ~ Powerhouse on Youtube

Newyddion / News

  • Approaches to Life Drawing
  • AFRICAN DRUMMING!
  • Pastel Drawing
  • Gallery Photos: Living Willow
  • Outdoor Digital Photography
  • Dewch i Ddarllen
  • Computer Club
  • Yoga April-June 2012
  • Textile Techniques: Felting and Indigo Dying
  • Hafan /Home
  • Diary
  • Courses
  • Powerhouse for Hire
  • Energy Groups
  • Gallery
  • Artists
  • Book Club
  • About us
  • Sponsors and Grants
  • Links
  • Talk to Us
  • Visiting

Adolygiad Llyfr: Pantglas

Print
Friday, 15 April 2011 14:33
Gan  Mihangel Morgan

Cyhoeddwyr       Y lolfa  £8.95     Clawr papur

ISBN 978 -1847713186

http://www.ylolfa.com/dangos.php?lang=cy&ISBN=9781847713186

 

Nofel o 253 tudalen yn adrodd hanes pentre Pantglas a’i thrigolion.

Lleolir y nofel yn 1880.  Hanes am foddi’r pentre i greu argae geir ynddi.

Wrth edrych ar y clawr bydd y darllenydd yn gwybod yn syth wrth wisg y cymeriadau arno bod y nofel wedi ei lleoli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gwelwn yr ofergoeliaeth sy’n nodweddiadol o’r cyfnod  y gannwyll gorff a chredu mewn ysbrydion a  bod gwravh yn byw yn eu mysg ym mherson Bedws Ffowc a’r gath Pom.

Cyfuniad o gyfnod mewn hanes a dychymyg yw’r nofel , er  byddwn yn teimlo  tybed a’i fel hyn yr oedd pentrefwyr Cwm Celyn  yn teimlo wrth iddynt hwy orfod symud pan adeiladwyd yr argae  ar draws Cwm Tryweryn?

Gwelir  yr effaith  wahanol  gaiff  y symud a’r adeliadu ar y trigolion. Bydd rhaid i’r pentrefwyr  i gyd symud.  Dilynir hynt a helynt  rhai o brif gymeriadau’r pentref. Yr offeiriad  Cati’r siop, Popi , Wil a’r pregethwr  sydd yr un enw a’r pentre.

Mae enw ar bob pennod. “Fel Y briodas olaf” sef priodas Cati’r siop gyda Joe un o weithwyr  a oedd yn paratoi ‘r argae. “Jaco a Dicw” dau fachgen sy’n byw drws nesa i’w gilydd. Mae mamu’r ddau yngydfau gilydd ond pan symuda un ohonynt gwelwn bod y ddwy fam yn hoffiawn o’i gilydd a bod hiraeth ar y nail o weld y llall yn gadael.

Cawn hanes symud y beddau o’r fynwent ynghyd a’r angladd olaf .

Ceir hanes llofruddiaeth Mair  ac ni chaiff y llofrudd byth  ond wrth  ddarllen ceir awgrym cryf o pwy yw.  Hefyd gwelir stad addysgiadol y cyfnod pan ddaw llythyr at Wil yr efail  sy’n anllythrennog ac yntau’n mynd ag ef at y gweinidog  . pan wel y gweinidog bod ei gyfrinach yn cael ei datgelu mae’n rhoi’r wybodaeth anghywir  i Wil.

 


 

The inhabitants of Pantglas, an imaginary village in south Wales, face big changes when the work on the new dam grows around them. They will have to relocate, but a lot of water will pass under the bridges of their lives before then.

 

< Prev   Next >
  • Privacy Policy
  • Hafan /Home
  • Talk to Us
  • Sitemap
  • Members
Pwerdy ~ Powerhouse, Chapel Street, Pont Tyweli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA44 4AH
Ffôn / Telephone: 01559 364820 | Ebost / Email: post@pwerdypowerhouse.co.uk

Noddwyr a Grantiau / Sponsors and Grants